Hafan > Amdanom Ni

Amdanom Ni

Hwb Awen yw Canolfan Hyfforddi a Datblygu newydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC), sy’n cael ei datblygu ym Mharc Busnes Llanelwy.

Mae’r enw Hwb Awen yn adlewyrchu pwrpas ac uchelgais y cyfleuster. Mae Hwb yn cyfleu’r syniad o bwynt canolog – canolbwynt o egni, gweithgarwch a chysylltiad sy’n cryfhau’r sefydliad drwy ddod â phobl a gallu ynghyd. Mae Awen, sy’n golygu ysbrydoliaeth, yn tynnu ar dreftadaeth ddiwylliannol Cymru a thraddodiad o ddysgu, creadigrwydd a thrawsnewid.

Gyda’i gilydd, mae Hwb Awen yn cynrychioli man lle mae sgiliau’n cael eu cryfhau, ysbrydoliaeth yn cael ei meithrin a phobl yn cael eu cefnogi i dyfu, gan alinio’n uniongyrchol ag ymrwymiad y Gwasanaeth i ddatblygu gweithlu galluog, hyderus a gwydn.

Pam mae angen Canolfan Hyfforddi a Datblygu newydd

Ar hyn o bryd, mae GTAGC yn darparu hyfforddiant ar draws sawl safle yng Ngogledd Cymru. Er bod y cyfleusterau hyn wedi cefnogi cenedlaethau o ddiffoddwyr tân, mae llawer ohonynt bellach yn cyrraedd diwedd eu hoes weithredol.

Mae’r heriau sy’n gysylltiedig â’r ystad bresennol yn cynnwys:

  • Ansawdd a chyflwr – mae’r safleoedd presennol yn agos at ddiwedd eu hoes weithredol ac nid ydynt yn bodloni safonau cyfredol o ran awyru, efelychu na lles.
  • Lleoliadau wedi’u gwasgaru – mae nifer o safleoedd bach yn creu aneffeithlonrwydd, teithio gormodol a hyfforddiant anghyson.
  • Cydymffurfiaeth reoleiddiol ac amgylcheddol – ni ellir bodloni gofynion iechyd a diogelwch newydd na thargedau Sero Net o fewn yr ystad bresennol.

Bydd Hwb Awen yn mynd i’r afael â’r heriau hyn drwy uno’r hyfforddiant mewn un ganolfan fodern, bwrpasol, wedi’i dylunio o amgylch anghenion gweithlu heddiw a risgiau’r dyfodol.a