Hafan > Newyddion Diweddaraf > Cynlluniau a Datblygiad Safle

Cynlluniau a Datblygiad Safle

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn bwriadu adeiladu Hwb Awen, y Ganolfan Hyfforddi a Datblygu newydd ym Mharc Busnes Llanelwy ar safle hen ffatri wydr Pilkington.

Bydd y datblygiad hwn yn darparu adeilad modern, canolog ar gyfer hyfforddiant a chefnogaeth weithredol. Wedi'i leoli ar barc busnes Llanelwy, gall 89% o'r gorsafoedd gyrraedd yr ardal o fewn 60 munud. Bydd y safle yn cynnwys: 

  • Hwb Pencadlys a Lles - cyfleuster addas i'r diben, cynhwysol a modern sydd wedi'i gynllunio i gefnogi lles, gwytnwch a pharodrwydd gweithredol.
  • Hwb Hyfforddi - sy'n cynnwys cyfleusterau hyfforddi arbenigol, ystafelloedd dosbarth modern, storfeydd y Gwasanaeth, a garej peiriannau.
  • Amgylchedd hyfforddi pwrpasol - gan gynnwys iard drilio, tyrrau hyfforddi ac amrywiaeth o bropiau hyfforddi realistig sy'n adlewyrchu'r digwyddiadau y mae criwiau yn eu mynychu ledled Gogledd Cymru, gan gynnwys argyfyngau, diwydiannol, masnachol, domestig ac amaethyddol. Bydd y cyfleusterau hyn yn helpu i sicrhau bod diffoddwyr tân yn gwbl barod i ymateb yn ddiogel ac yn effeithiol i ddigwyddiadau cymhleth yn y byd go iawn.
  • Bioamrywiaeth a mannau gwyrdd - gan gynnwys ardal bioamrywiaeth wedi'i thirlunio ar flaen yr adeilad a phwll gwanhau dŵr wyneb, sy'n cefnogi cynaliadwyedd a gwella'r amgylchedd naturiol.

Mae'r delweddau a'r cynlluniau safle isod yn rhoi trosolwg gweledol o ddatblygiad arfaethedig Hwb Awen, gan gynnwys cynllun y safle a'r cyfleusterau a fyddai'n cael eu darparu.

Hwb Awen cynllun yr safle

Hwb Pencadlys a Lles Lefel 0

Hwb Pencadlys a Lles Lefel 1

Hwb Hyfforddi Lefel 0

Hwb Hyfforddi Lefel 1

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Dyluniadau artist o'r safle
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar
Hwb y Pencadlys gyda ardal bioamrywiaeth
 
 
  • Hwb y Pencadlys gyda ardal bioamrywiaeth
    Hwb y Pencadlys gydag ardal bioamrywiaeth
  • Hwb y Pencadlys o'r blaen
    Hwb y Pencadlys o'r blaen
  • Hwb y Pencadlys Ffreutur
    Hwb y Pencadlys Ffreutur
  • Hwb y Pencadlys y Derbynfa
    Hwb y Pencadlys y Derbynfa
  • Hwb y Pencadlys swyddfa
    Hwb y Pencadlys swyddfa
  • Hwb y Pencadlys swyddfa 2
    Hwb y Pencadlys swyddfa 2
  • Tu allan yr Hwb Hyfforddi gydag ardal ar gyfer hyfforddiant rhyddau o cerbyd
    Tu allan yr Hwb Hyfforddi gydag ardal ar gyfer hyfforddiant rhyddau o cerbyd