Hafan > Amdanom Ni > Ein Cynlluniau a'n Huchelgeisiau
Ein Cynlluniau a'n Huchelgeisiau
Mae Hwb Awen yn fuddsoddiad unwaith mewn cenhedlaeth yn ein pobl, gan eu harfogi â'r sgiliau, yr hyder a'r gwytnwch sydd eu hangen i gadw cymunedau Gogledd Cymru yn ddiogel nawr ac am ddegawdau i ddod.
Ein nod yw creu canolfan hyfforddi a datblygu addas i'r diben sy'n cefnogi holl weithgareddau hyfforddi craidd GTAGC o un lleoliad.
Bydd Hwb Awen yn darparu:
- Amgylcheddau hyfforddi gweithredol realistig
- Ystafelloedd dosbarth modern a mannau dysgu
- Cyfleusterau sy'n cefnogi rheoli, arweinyddiaeth a sgiliau arbenigol
- Ardaloedd lles, adfer a gorffwys o ansawdd uchel
- Adeiladau cwbl hygyrch wedi'u cynllunio ar gyfer defnydd cynhwysol
Trwy gadw hyfforddiant at un safle, bydd y Gwasanaeth yn lleihau teithio diangen, yn gwella cysondeb ac ansawdd, ac yn gwneud gwell defnydd o adnoddau cyhoeddus.
Mae'r Gwasanaeth eisoes wedi sicrhau'r safle yn Llanelwy fel rhan o'i strategaeth ystadau ehangach.
Bydd y Gwasanaeth yn parhau i hunan-ariannu'r holl weithgareddau dichonoldeb, datblygu dylunio, cynllunio a dogfennaeth dechnegol.
Yn dilyn hyn, mae'r Gwasanaeth yn bwriadu ceisio cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, i gyflawni adeiladu, gosod a chomisiynu.
Bydd y dull o gyflawni yn defnyddio fframweithiau sector cyhoeddus sefydledig. Mae hyn yn sicrhau tryloywder, gwerth am arian a gwerth cymdeithasol ac yn cynnwys llywodraethu cryf, rheoli risg a goruchwyliaeth broffesiynol.
Yn amodol ar gymeradwyaeth gynllunio a chyllid, disgwylir i Hwb Awen gael ei gwblhau ac yn weithredol yn 2029.
