Hafan > Newyddion Diweddaraf > Newyddion > Cymryd y camau nesa ar gyfer canolfan hyfforddi a datblygu

Cymryd y camau nesa ar gyfer canolfan hyfforddi a datblygu

arwydd canolfan hyfforddiant

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cyhoeddi Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Hwb Awen, canolfan hyfforddi a datblygu integredig newydd yn Llanelwy. Mae hwn yn gam sylweddol tuag at foderneiddio sut mae'r Gwasanaeth yn hyfforddi a chefnogi staff i amddiffyn cymunedau ledled Gogledd Cymru.

Cymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol heddiw gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, gan alluogi'r Gwasanaeth i symud ymlaen i gam nesaf y prosiect. Byddai Hwb Awen yn dod â sawl safle sydd wedi’u heneiddio a’u gwasgaru'n ddaearyddol at ei gilydd i un ganolfan bwrpasol a gynlluniwyd i fodloni gofynion darpariaeth brys modern.

Mae Hwb Awen - enw a ddewiswyd gan staff - yn adlewyrchu'r uchelgais y tu ôl i'r prosiect. Mae Hwb yn golygu pwynt canolog o egni a chysylltiad, tra bod Awen, wedi'i darddu o chwedloniaeth Cymraeg, ac yn cynrychioli ysbrydoliaeth, creadigrwydd a thrawsnewid. Gyda'i gilydd, maent yn symbol o le ar gyfer dysgu, arweinyddiaeth a rhagoriaeth mewn gwasanaeth cyhoeddus.

Bydd y cyfleuster arfaethedig yn Llanelwy yn cynnwys:

  • canolfan hyfforddi ganolog gydag ystafelloedd dosbarth, cyfleusterau rheoli digwyddiadau a mannau lles
  • amgylcheddau hyfforddi tân a gwrthdrawiadau traffig ffyrdd realistig wedi'u halinio â risgiau gweithredol sy'n dod i'r amlwg
  • offer anadlu arbenigol a chyfleusterau diheintio
  • llety dros nos i gefnogi hyfforddiant estynedig ac arbenigol
  • storfeydd gweithredol canolog i wella parodrwydd ac effeithlonrwydd
  • pencadlys modern sy'n dod ag arweinyddiaeth a thimau'r Gwasanaeth at ei gilydd
  • cyfleusterau a gynlluniwyd i gefnogi gwaith cynhwysol a hyfforddiant amlasiantaeth

Dywedodd Justin Evans, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol ac arweinydd strategol y prosiect:

"Mae hyn yn llawer mwy nag adeilad newydd. Mae'n ymwneud â chreu sylfaen ddiogel, fodern a gwydn sy'n cefnogi ein diffoddwyr tân, yn cryfhau arweinyddiaeth, ac yn sicrhau y gallwn barhau i amddiffyn pobl Gogledd Cymru rhag risgiau cymhleth sy’n dod i’r amlwg"

Mae'r angen am newid yn cael ei yrru gan gyflwr a chyfyngiadau’r cyfleusterau presennol. Mae llawer ohonynt yn heneiddio, yn gostus i'w cynnal a ddim bellach yn addas ar gyfer safonau gweithredol ac amgylcheddol gweithlu modern.

Mae'r Achos Busnes Amlinellol yn nodi amcangyfrif o gost o £49.95 miliwn, yn amodol ar gymeradwyaeth bellach. Mae'r Gwasanaeth yn ceisio am gyllid allanol i adeiladu'r ganolfan, gyda chynigion cyllido manwl wedi'u nodi yn yr achos busnes.

Pe bai'n cael ei gymeradwyo, bydd Hwb Awen yn:

  • gwella diogelwch diffoddwyr tân ac ansawdd hyfforddiant
  • gwella cydlynu a pharodrwydd gweithredol 
  • lleihau teithio ar draws cyfleusterau'r gwasanaeth
  • cryfhau cydweithrediad y gwasanaethau brys gyda phartneriaid
  • cefnogi cynaliadwyedd ac amcanion sero net yng Nghymru

Ychwanegodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Evans:

"Mae hwn yn fuddsoddiad hirdymor yn ein pobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Bydd y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud rwan yn siapio sut rydyn ni'n hyfforddi, arwain ac ymateb i argyfyngau am ddegawdau i ddod."

Mae cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol yn garreg filltir allweddol i'r prosiect. Bydd y camau nesaf yn cynnwys sicrhau cyllid a datblygu'r achos busnes llawn sydd ei angen cyn y gall y gwaith adeiladu ddechrau.